BETA This is a new website - your feedback will help us to improve it.

Llythyrau o gefnogaeth

Bydd yn rhaid i chi, fel yr enwebai, gyflwyno dau lythyr o gefnogaeth gan ddau berson ychwanegol sy’n adnabod y sefydliad yn dda. Mae’r rhain yn helpu i egluro gwaith ac effaith y grŵp yn eich cymuned leol.

Pwy sy’n eu hysgrifennu?

Mae’n rhaid i lythyrau gael eu hysgrifennu gan unigolion sy’n gyfarwydd â gwaith y grŵp ac sy’n hapus i’w gefnogi. Mae llythyrau gan fuddiolwyr neu aelodau o’r gymuned yn fwy pwerus na llythyrau gan aelodau seneddol neu unigolion sy’n llai cyfarwydd â gwaith y grŵp.

Ni fydd llythyrau’n gymwys os ysgrifennwyd hwy gan yr enwebydd, gan wirfoddolwyr neu gan unrhyw un sy’n ymwneud â rhedeg y sefydliad – gan gynnwys gweithwyr ac ymddiriedolwyr- ac felly, ni fyddant yn cael eu hystyried.

Beth y dylid ei gynnwys?

  • Effaith y grŵp ar y gymuned leol
  • Pwy mae’r grŵp wedi helpu a sut
  • Yr hyn mae gwirfoddolwyr y grŵp yn ei wneud a pham eu bod yn arbennig
  • Perthynas y cefnogwr â’r grŵp, gan gynnwys y rheswm dros y gymeradwyaeth

(Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr ond mae’n cynnwys peth o’r wybodaeth y gallwn ddisgwyl ei gweld.)

Disgrifiad o’r llythyr

  • Ni ddylai llythyrau fod yn fwy na 500 o eiriau neu 2 dudalen o hyd 
  • Dylid nodi dyddiad ar y llythyrau
  • Gall llythyrau fod yn y fformat canlynol:
  • Delweddau ar ffurf jpg, jpeg a png;
  • Ffeiliau ar ffurf doc, docx, odt, pdf a txt.

Gall y llythyrau fod yn anffurfiol neu’n ffurfiol. Eu nod yw cyfleu’r gwaith gwych y mae’r grŵp enwebedig yn ei wneud. Er enghraifft, gallai fod yn llythyr ffurfiol, e-bost wedi’i deipio neu nodyn wedi’i ysgrifennu â llaw.

Oherwydd ei bod yn gallu cymryd amser i gael gafael ar y rhain, rydym yn argymell eich bod yn gofyn amdanynt cyn gynted ag y byddwch yn creu cyfrif ar ein gwefan.