BETA This is a new website - your feedback will help us to improve it.

Cymhwystra

Rhan 1: Meini prawf cymhwystra ar gyfer yr enwebydd

Ni all y grŵp enwebu ei hun, mae’n rhaid iddo gael ei enwebu gan rywun arall.

Mae’n rhaid bod y canlynol yn wir am yr enwebydd:

  • mae’n aelod o’r cyhoedd sydd â gwybodaeth dda am waith y grŵp (megis buddiolwr neu gefnogwr hirdymor)
  • mae’n gallu darparu dau lythyr o gefnogaeth ar wahân gan ddau berson gwahanol sy’n adnabod y grŵp yn dda

Ni all yr enwebydd fod yn un o’r canlynol:

  • yn wirfoddolwr, cyflogai neu’n ymddiriedolwr i’r grŵp, neu’n ymwneud mewn unrhyw ffordd â rhedeg y sefydliad

Mae angen i ni sicrhau bod yr enwebwyr yn annibynnol, ac ni all aelodau’r grŵp enwebu eu hunain. Mae hyn yn bwysig iawn, gan fod Gwobr y Brenin am Wasanaeth Gwirfoddol yn anrhydedd cenedlaethol.

Rhan 2: Meini prawf cymhwystra ar gyfer y grŵp

Mae gwobrau Gwobr y Brenin am Wasanaeth Gwirfoddol wedi’u hanelu at grwpiau sy’n cael eu harwain gan wirfoddolwyr ac sy’n darparu budd i gymunedau lleol.

Mae’n rhaid i’r canlynol fod yn wir:

  • mae’r grŵp wedi’i ffurfio o dri o bobl neu fwy
  • mae’r grŵp wedi’i leoli yn y DU, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw
  • mae’r grŵp wedi bod yn gweithredu am o leiaf tair blynedd cyn yr enwebiad
  • mae gan fwy na hanner y gwirfoddolwyr yn y grŵp yr hawl i breswylio yn y DU
  • mae’r grŵp yn cael ei arwain gan wirfoddolwyr, nid gan staff cyflogedig; dylai dros hanner ei aelodau fod yn wirfoddolwyr
  • mae’r grŵp yn rhoi budd penodol ac uniongyrchol i’r gymuned leol

Ni all y grŵp fod:

  • wedi ei enwebu am Wobr y Brenin (neu Frenhines) am Wasanaeth Gwirfoddol* yn ystod y tair blynedd diwethaf
  • eisoes wedi ennill Gwobr y Brenin (neu Frenhines) am Wasanaeth Gwirfoddol*
  • yn gweithredu fel sefydliad cenedlaethol, gan fod Gwobr y Brenin (neu Frenhines) am Wasanaeth Gwirfoddol* wedi’i anelu at grwpiau gwirfoddol lleol
  • yn codi arian neu’n gwneud grantiau fel prif ffocws
  • wedi’i leoli o fewn, neu’n cefnogi gwasanaeth cyhoeddus, oni bai ei fod yn endid ar wahân i’r sefydliad gwasanaethau cyhoeddus
  • yn gweithredu er budd anifeiliaid yn unig, oni bai ei fod yn gallu dangos bod ei waith yn rhoi buddion eraill sylweddol i’r gymuned leol (er enghraifft, anifeiliaid anwes therapi)

*newidiodd Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol (QAVS) ei enwi i Wobr y Brenin am Wasanaeth Gwirfoddol (KAVS) yn 2023

Arweiniad Ychwanegol:

Budd lleol penodol ac uniongyrchol

Mae’n rhaid bod grwpiau yn darparu buddion uniongyrchol i gymuned trwy eu gwaith, er enghraifft, cefnogi pobl anabl yn uniongyrchol. Ystyrir bod grwpiau’n anghymwys pan mai
cefnogi un neu fwy o grwpiau eraill sy’n darparu’r buddion uniongyrchol hyn yw eu hunig bwrpas. Dyma pam mae sefydliadau codi arian a rhoi grantiau yn cael eu hepgor yn benodol
fel y rhestrir uchod.

Sylwer, efallai y caiff grwpiau sy’n codi arian eu hystyried os yw eu gweithgareddau’n cael effaith fuddiol sylweddol ar y gymuned ehangach y tu hwnt i godi arian (er enghraifft, trwy gynnal digwyddiad mawr neu ddarparu gwasanaeth lleol sylweddol).

Sefydliadau cenedlaethol

Gall grŵp gael ei enwebu os yw’n gangen o sefydliad rhanbarthol neu genedlaethol mwy o faint, neu’n gysylltiedig â’r fath sefydliad. Fodd bynnag, disgwylir ei fod wedi cychwyn a datblygu dull unigryw yn lleol ac yn gallu dangos lefel uchel o ymreolaeth a
hunanbenderfyniad (er enghraifft, grŵp sgowtiaid lleol).

Grwpiau sy’n cefnogi gwasanaeth cyhoeddus

Mae grwpiau sydd wedi’u lleoli o fewn, neu yn gefnogol i, wasanaeth cyhoeddus (megis ysbyty, heddlu neu ysgol) yn gymwys, ond bydd angen i chi allu dangos y canlynol:

  • bod y grŵp yn endid ar wahân i’r sefydliad statudol a’i bod yn glir ei fod o dan arweinyddiaeth gwirfoddolwyr, yn hytrach na’n dilyn cyfarwyddiadau gan staff sydd wedi’u cyflogi yn y sefydliad
  • grŵp gwirfoddol hirdymor sefydledig yw’r grŵp, sy’n endid unigryw yn ei rinwedd ei hun ac sydd â strwythur rheoli, yn hytrach na bod yn rhan o gynllun ehangach neu’n fenter wirfoddoli dan arweiniad ysgolion