BETA This is a new website - your feedback will help us to improve it.

Cwestiynau cyffredin

Ynglŷn â’r Wobr


Beth yw Gwobr y Brenin am Wasanaeth Gwirfoddol?

Gwobr y Brenin am Wasanaeth Gwirfoddol yw’r wobr uchaf a roddir i grwpiau gwirfoddol lleol yn y DU, mae’n gyfwerth ag MBE ac fe’u gwobrwyir am oes.

Beth yw’r nodweddion sy’n golygu bod grŵp yn haeddiannol o ennill Gwobr y Brenin am Wasanaeth Gwirfoddol?

Gall unrhyw grŵp gwirfoddol sy’n darparu gwasanaeth cymdeithasol, economaidd neu amgylcheddol i’r gymuned leol gael ei enwebu ar gyfer y wobr. Caiff pob grŵp ei asesu ar
sail yr arweinyddiaeth a’r ysgogiad a ddangosir gan y gwirfoddolwyr, y budd y mae’n ei gynnig i’r gymuned leol a’i statws o fewn y gymuned honno.

A allaf enwebu unigolyn ar gyfer Gwobr y Brenin am Wasanaeth Gwirfoddol?

Gwobr ar gyfer grwpiau gwirfoddol sy’n cynnwys 3 neu fwy o unigolion yn unig yw Gwobr y Brenin am Wasanaeth Gwirfoddol. Os ydych yn dymuno cydnabod unigolyn, mae Gwobrau eraill ar gael megis anrhydeddau cenedlaethol neu ‘Points of Light’.

Mae Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol (QAVS) gan y grŵp yr hoffwn ei enwebu yn barod. A allaf ei enwebu ar gyfer Gwobr y Brenin am Wasanaeth Gwirfoddol (KAVS) o hyd?

Gan fod Gwobr y Brenin am Wasanaeth Gwirfoddol yn rhan o’r system anrhydedd, mae’n Wobr oes. Mae hyn yn golygu bod gan y grŵp a gafodd Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol yn flaenorol y wobr hon cyn hired â’u bod yn gweithredu fel grŵp, ac felly ni ellir eu cyflwyno ar gyfer Gwobr y Brenin am Wasanaeth Gwirfoddol.

Gwneud enwebiad

Pa wybodaeth fydd ei hangen arnaf i gwblhau fy enwebiad?

I lenwi’r ffurflen enwebu bydd angen y canlynol arnoch:

  • Enw a chyfeiriad y grŵp, manylion cyswllt a manylion o ran pryd y cafodd y grŵp ei sefydlu. Os oes gan y grŵp gyfrifon cyfryngau cymdeithasol neu wefan mae’n werth nodi’r cysylltiadau.
  • Gwybodaeth allweddol am y grŵp, gan gynnwys y gwaith, rôl y gwirfoddolwyr, a’r hyn sy’n gwneud y grŵp yn arbennig yn eich barn chi. 
  • Mae hefyd angen dau lythyr ategol i gymeradwyo eich enwebiad. Dylai’r rhain gael eu darparu gan 2 berson ychwanegol sy’n adnabod gwaith y grŵp yn dda.

Beth yw’r camau i wneud enwebiad?

Cam 1: Defnyddiwch ein meini prawf cymhwysedd i sicrhau bod y grŵp yn gymwys i gael gwobr a’ch bod yn gymwys i wneud enwebiad.

Cam 2: Ystyriwch wybodaeth am eich grŵp dewisol megis ei wybodaeth gyswllt, effaith y grŵp yn eich cymuned leol, a’r hyn sy’n gwneud y gwirfoddolwyr i serennu.

Cam 3: Crëwch gyfrif enwebydd ar gyfer Gwobr y Brenin am Wasanaeth Gwirfoddol – dim ond munud mae’n ei gymryd.

Cam 4: Cysylltwch â 2 berson arall a fyddai’n gallu darparu llythyrau o gefnogaeth ar gyfer y grŵp. Ni allant gymryd rhan yn y gwaith o redeg y grŵp. 

Cam 5: Llenwch y ffurflen enwebu ar-lein ac uwchlwythwch y ddau lythyr o gefnogaeth.

Faint o fanylion sydd angen i mi eu darparu yn fy enwebiad?

Nod yr enwebiad yw rhoi darlun o waith y grŵp yn eich cymuned leol. Po fwyaf y manylion y gallwch eu cynnwys, y mwyaf y gallwn ei ddeall am waith ac effaith y grŵp. Os nad oes gennych lawer o fanylion, peidiwch â phoeni, gellir casglu mwy o wybodaeth yn ystod y camau asesu lleol a chenedlaethol.

A oes unrhyw beth y gallaf ei wneud i baratoi ar gyfer y cyfnod enwebu?

Awgrymwn eich bod yn dechrau meddwl am waith y grŵp a pham eich bod am gydnabod y grŵp drwy’r Wobr hon. Hefyd, efallai y byddai’n werth meddwl am unigolion a allai ysgrifennu llythyr o gefnogaeth ar gyfer y grŵp.

Pryd y byddaf yn cael gwybod canlyniad fy enwebiad?

Cyhoeddir y gwobrau’n swyddogol ar Ben-blwydd Ei Fawrhydi y Brenin, sef 14 Tachwedd. Cyhoeddir y gwobrau yn The Gazette, GOV.UK ac ar wefan Gwobr y Brenin am Wasanaeth Gwirfoddol.

Llythyrau o gefnogaeth

Pwy sy’n gallu ysgrifennu llythyrau o gefnogaeth?

Gall unrhyw un nad ydynt yn ymwneud â rhedeg y grŵp ysgrifennu llythyrau o gefnogaeth. Er enghraifft, byddai llythyrau gan fuddiolwyr neu aelodau o’r gymuned yn gymwys. 

Ni fyddai llythyrau o gefnogaeth gan yr enwebai nac unrhyw un sy’n rhan o redeg y grŵp yn gymwys.

At bwy y dylid cyfeirio’r llythyrau o gefnogaeth?

Dylai llythyrau fod yn glir eu bod yn cefnogi enwebiad ar gyfer Gwobr y Brenin. Os oes angen, gallwch hefyd gyfeirio’r llythyr at: Y Pwyllgor ar gyfer Gwobr y Brenin am Wasanaeth Gwirfoddol.

Datrys problemau

Ble alla i greu cyfrif i gyflwyno enwebiad?

Cliciwch yma i greu cyfrif gwefan.

Ni allaf ddod o hyd i ble i fewngofnodi i’m cyfrif enwebu?

Cliciwch yma i fewngofnodi i’ch cyfrif gwefan.

Beth ddylwn ei wneud os ydw i wedi anghofio fy nghyfrinair?

Cliciwch yma i ailosod eich cyfrinair i’r gwefan.

Cysylltu

Gyda phwy y dylwn i gysylltu os ydw i’n cael trafferth gyda fy enwebiad?

kingsaward@dcms.gov.uk