Gwneud Enwebiad
Ynglŷn ag enwebu
Rydym wrth ein bodd eich bod yn ystyried enwebu grŵp ar gyfer Gwobr y Brenin am Wasanaeth Gwirfoddol! Mae’n ffordd wych o gydnabod grŵp gwirfoddol lleol rhagorol.
Mae enillwyr Gwobr y Brenin am Wasanaeth Gwirfoddol (neu KAVS) yn hanu o bob cwr o’r DU, gan arddangos gwirfoddoli ar ei orau yn ein pentrefi, ein trefi a’n dinasoedd. Beth am gael cip olwg ar rai o’n enillwyr blaenorol am ysbrydoliaeth?
Mae’r broses o enwebu grŵp yn syml:
Cam 1: Defnyddiwch ein meini prawf cymhwysedd i sicrhau bod y grŵp yn gymwys i gael gwobr a’ch bod yn gymwys i wneud enwebiad.
Cam 2: Ystyriwch wybodaeth am eich grŵp dewisol megis ei wybodaeth gyswllt, effaith y grŵp yn eich cymuned leol, a’r hyn sy’n gwneud y gwirfoddolwyr i serennu.
Cam 3: Crëwch gyfrif enwebydd ar gyfer Gwobr y Brenin am Wasanaeth Gwirfoddol – dim ond munud mae’n ei gymryd.
Cam 4: Cysylltwch â 2 berson arall a fyddai’n gallu ysgrifennu llythyrau o gefnogaeth ar gyfer y grŵp.
Cam 5: Llenwch y ffurflen enwebu ar-lein ac uwchlwythwch y ddau lythyr o gefnogaeth.